P-04-676 – Creu Pencampwr yr Iaith Gymraeg mewn Cymunedau yng Nghymru
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Cynghorydd Sion Jones ar ôl casglu 10 Llofnod.
Geiriad y ddeiseb
Cyflwynaf y ddeiseb hon i chi fel pwynt cychwyn ar yr ymgyrch i greu Pencampwr yr Iaith Gymraeg drwy ein cymunedau yng Nghymru. Bydd y rôl hon yn un wirfoddol o fewn y gymuned, a bydd y pencampwr yn cael ei benodi i hyrwyddo defnydd o'r Iaith Gymraeg yng Nghymru, a chefnogi datblygiadau o fewn ei chymunedau.
Bydd y Pencampwr yn arwain materion gyda'r iaith, yn cynnwys rôl o fewn Ysgolion Cynradd ac Uwchradd, rôl o fewn Cynghorau Plwyf a Thref, a chyswllt agos gyda Chynghorwyr Sir a'r Cyngor Sir.
Bydd y Pencampwr yn cael cymorth gan Gomisiynydd yr Iaith Gymraeg i weithredu'r rôl, ac i sicrhau bod cymunedau yng Nghymru yn cyd-fynd â pholisïau lleol a Chymru.
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
· Arfon
· Gogledd Cymru